Employer: Arts Council Of Wales
Salary: £53,606 per annum
Date Added: 25/04/2024
Pennaeth Cyfathrebu
Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd E:Cyflog cychwynnol o £53,606
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i’r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl:
Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o’r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae’r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy’n ddeniadol ac yn hygyrch.
Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae’r Pennaeth hefyd yn cydlynu’r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy’n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.
Amdanoch chi
Mae gennych gymhwyster perthnasol a/neu brofiad proffesiynol sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a phrofiad o lunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu. Bydd gennych yr awdurdod personol i weithredu’n gredadwy ar lefel uchel mewn materion cyhoeddus ar gyfer corff cyhoeddus cenedlaethol, a’r hyblygrwydd i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a Saesneg – er mwyn cynnal perthnasoedd effeithiol ar lefelau uwch yn fewnol ac yn allanol – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy’n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyldeb person.
Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Iau 16 Mai 2024
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024
Head of Communications
Full-time, 37 hours per week
Permanent
Grade E: Starting salary of £53,606
Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay, or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.
Our benefits include 30 days annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).
About the role:
We are recruiting for the post of Head of Communications to play a leading role in promoting an accurate, positive, and informed view of the Arts Council, and of the activity we support. The Head of Communications ensures that we promote our work in a single consistent voice, in a manner that is arresting, engaging and accessible.
The Head leads a team of Communication specialists who together develop print and electronic material – in Welsh and English – that reflects the Arts Council’s values, ambitions and identity. A key goal for the team is to promote the arts in innovative ways to reach a new and broader audience. The Head also coordinates the delivery of promotional campaigns and events that raise the profile of the arts and the Arts Council itself.
About you:
You have a relevant qualification and/or substantial professional experience of working within a communications environment and have experience in formulating and implementing communication strategies. You will possess the personal authority to operate credibly at high level in public affairs for a national public body, and the flexibility to work effectively as a member of a team.
Welsh Language
We work in both English and Welsh. Excellent spoken and written communication skills and the ability to confidently converse both written and orally in Welsh and English – to maintain effective relationships at senior levels both internally and externally – are essential for this post.
Disability confident Scheme
The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.
Closing date: Midnight, Thursday 16 May 2024
Interviews: Tuesday 4th June 2024
Application Deadline: 06/06/2024
Contract Type: Permanent
Submitted Applications: 0